‘The Gladiator of Llangadog’: Astudiaeth o Dro Pedol Llywodraeth Prydain dros Sefydlu Sianel Deledu Cymraeg yn Wyneb Bygythiad Gwynfor Evans i Ymprydio hyd at Farwolaeth, 1979‐1980
Er i’r ymgyrch derfynol i sefydlu S4C hawlio’i le yn hanes Cymru a mytholeg cenedlaetholdeb Cymreig, nid yw’r llenyddiaeth ysgolheigaidd gyfredol yn rhoi sylw dyledus i resymeg y Llywodraeth Geidwadol ei hun dros ildio a’i sefydlu. Trwy ystyried deunydd archif newydd, mae modd dadlau yr ildiodd y llywodraeth dros y sianel yn bennaf mewn ymateb i don genedlaetholgar ac ymgyrchu torcyfraith a gryfhawyd gan fygythiad Gwynfor Evans i ymprydio hyd at farwolaeth ac ofn gwirioneddol dros ymlediad trais gwleidyddol, arweiniodd at fethiant y Blaid Geidwadol i gynnal disgyblaeth ymhlith ei haelodau seneddol Cymreig.
Authors
- Owain Meirion Edwards
Institutions
- DePaul University (US)
Publication Details
- Journal
- The Welsh History Review / Cylchgrawn Hanes Cymru
- Published
- 2025-12-01
- DOI
- https://doi.org/10.16922/whr.32.4.4
- Primary Topic
- Historical Studies of British Isles
- Type
- article
- Field-Weighted Citation Impact
- 0.00